NWCR
Putting our region's cancer needs first

Linda's Story

Pan ymddeolodd Linda Wyn Rogers o'i rôl fel Dirprwy Bennaeth, doedd hi ddim yn bwriadu rhoi ei thraed i fyny.

Linda Wyn Rogers and Llanfairfechan Committee

Felly pan soniodd ffrind am waith da Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin, cymerodd y cyfle i ddod yn aelod o Bwyllgor Llanfairfechan, Aber a Bangor yng Ngogledd Cymru, ac o fewn ychydig fisoedd fe gymerodd rôl Ysgrifennydd.

Dywedodd "Roeddwn bob amser yn awyddus i wneud rhywbeth gwerth chweil yn fy ymddeoliad ac yn dilyn sgwrs gyda ffrind fe arweinwyd fi at elusen Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin.

"Dyma'r elusen berffaith i mi fod yn rhan ohono. Fel teulu, rydym erioed wedi cefnogi ein hosbis lleol felly roedd hwn yn ddatblygiad naturiol i mi."

Collodd Linda, sy’n 65 ac yn nain i Finnely a Lili Wyn, ei thad Ken o ganser 12 mlynedd yn ôl pan oedd o yn 79 mlwydd oed.

Yr oedd newydd guro canser y coluddyn pan fe gafodd ddiagnosis o ganser y stumog.........a doedd dim llawdriniaeth fyddai yn ei wella.

Dywedodd: "Roedd yn arbennig o greulon wrth iddo ddod trwy ganser y coluddyn, ac yna canfuwyd canser y stumog, a doedd dim llawer o driniaeth ar gael iddo.”

"Nid yw fy stori yn anarferol, mae canser yn effeithio llawer o bobl. Mae’r gwaith mae'r elusen hon yn ei wneud, mor hanfodol oherwydd ei fod yn ariannu ymchwil yn y Gogledd Orllewein. Ond i'r bobl leol sy'n ymwneud â'r elusen hon, ac i'r bobl sy'n cyfrannu, mae’r ffaith y gallant wneud gwahaniaeth yn lleol trwy helpu i ariannu’r gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, yn hynod bwysig.

Yn ogystal â chasglu rhoddion yn y siopau a’r archfarchnadoedd lleol, mae'r pwyllgor yn trefnu sioeau ffasiwn, a gerddi agored, ac mae haelioni'r gymuned leol yn rhyfeddol.

Dywedodd Linda, sy'n briod â Roy: "Rydym wedi ein lleoli mewn pentref a chymuned fach iawn felly mae'r ffaith ein bod yn codi oddeutu £15,000 bob blwyddyn yn wych."

Sialens nesaf Linda yw sicrhau bod y pwyllgor a'r elusen yn apelio i'r gymuned Gymraeg.

Dywedodd: "Mae cymaint o bobl lleol yn siarad Cymraeg, felly mae angen i ni apelio mwy atyn nhw, ein nôd nesaf yw gweithio'n agosach gyda disgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion a colegau Cymraeg eu hiaith, i ledaenu'r gair am waith Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin.